Job description
Rydyn ni'n recriwtio Athro/athrawes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Oriau gwaith: 32.50
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 + TLR2 £4428 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Ysgol Gymraeg Bro Allta yn chwilio am athro neu athrawes dosbarth brwdfrydig, Rydym yn ysgol Gymraeg hapus, groesawgar a chynhwysol sy'n ymfalchïo mewn cynnig addysg o'r safon uchaf, cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau gwerthfawr i bob plentyn.
Mae'r swydd hon yn denu TLR o £4,428 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol. Mae'r Llywodraethwyr yn ymrwymedig i benodi arweinydd sydd:
- yn arweinydd cadarn a theg;
- yn gallu ysbrydoli staff brwdfrydig; yn rhannu arfer dda yn rheolaidd;
- yn gallu datblygu staff yn effeithiol;
- yn gweithio'n dda o dan bwysau;
- yn gallu cyfrannu'n dda at benderfyniadau strategol;
- yn unigolyn gyda chefndir o addysgu rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweledigaeth glir ac ymrwymiad i addysg o safon uchel; yn unigolyn sydd â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion; yn unigolyn uchelgeisiol sy'n mwynhau her;
- yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg, ein diwylliant a'n traddodiadau; yn barod i gyfrannu'n llawn at fywyd a gweithgareddau ehangach yr ysgol;
- yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o'r Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Statws Athro Cymwysedig a wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar hyn o bryd.
- Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.
- Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar Ddydd Gwener yr 20fed o Dachwedd 2026
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys
Cynllun Pensiwn Athrawon Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 01443 814883 neu ebost:
[email protected] Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu'r ysgol.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email protected] am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.