About . Caerphilly County Borough Council

Ystrad Mynach, Hengoed CF82, UK

Inclusive Features


Job description

Rydyn ni'n recriwtio Athro/athrawes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 32.50
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 31 Awst 2027

Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Allta yn chwilio am athro neu athrawes dosbarth brwdfrydig, gweithgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol am gyfnod dros dro o ddau dymor.

Rydym yn ysgol Gymraeg hapus, groesawgar a chynhwysol sy'n ymfalchïo mewn cynnig addysg o'r safon uchaf, cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau gwerthfawr i bob plentyn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:

Yn athro neu'n athrawes frwdfrydig sy'n gosod lles, cynnydd a hapusrwydd y plant wrth wraidd popeth.

Yn meddu ar sgiliau addysgu rhagorol ac yn gallu ysbrydoli a herio dysgwyr.

Yn greadigol, yn egnïol ac yn barod I gyfrannu syniadau newydd.

Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a chydweithio effeithiol.

Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant, staff a rhieni.

Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru.

Yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg, ein diwylliant a'n traddodiadau.

Yn barod i gyfrannu'n llawn at fywyd a gweithgareddau ehangach yr ysgol.

Beth allwn ni ei gynnig?

Plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu.

Tîm o staff croesawgar, gweithgar a chefnogol.

Amgylchedd dysgu cadarnhaol sy'n annog creadigrwydd ac arloesedd.

Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.

Y cyfle i fod yn rhan o ysgol sy'n ymfalchïo yn ei hiaith, ei diwylliant a'i chymuned.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 6 Tachwedd 2026.

Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
  • Statws Athro Cymwysedig a wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar hyn o bryd.
  • Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.
  • Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon Leol a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 01443 814883 neu ebost: [email protected]

Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu'r ysgol.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
Industry
Other
Job Sector
Other
Job Position
Other
Estimated Salary
£33,731.00 - £51,942.00 / year
City/Town
Hengoed
Postal Code
CF82
Address
Ystrad Mynach, Hengoed CF82, UK
Post date
Closing date
Reference Number
1.3933425350347E+19

Related Jobs

Assistant Cook - Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr

School Cook
United Kingdom

posted 1 week ago

Swyddog Yr Iaith Gymraeg

Other
Newport, UK

posted 1 month ago

. Caerphilly County Borough Council false